Reception GWEITHREDU CAERDYDD  dros y SENGL DIGARTREF Reception
Canolfan Huggard
Canolfan Huggard
Canolfan Huggard

Elusen gofrestredig yw C.A.S.H (Gweithredu Caerdydd dros y Sengl Digartref) sy’n cynnwys canolfan ddydd, uned gwelyau mewn argyfwng, a thai â chymorth – sy’n cynnig cymorth a chyfle i’r digartref ailasefydlu yn y gymuned.

Mae’n Ganolfan yn rhan ogleddol Bae Caerdydd.

C.A.S.H.
Canolfan Huggard
Tresillian Way
Caerdydd
CF10 5JZ

T: (029) 2034 9980
Ff: (029) 2034 9981
E: cash@c-a-s-h.org.uk

Hafan Amdanom Ni Ein Nod Gwasanaethau Adroddiad Blynyddol Rhoddion Swyddi Dolenni English
Gwasanaethau

Uned Gwelyau mewn Argyfwng (EBU)

Mae’r uned hon yn cynnwys 20 o stafelloedd gwely a 3 lolfa gyffredin. Mae pob defnyddiwr gwasanaeth yn cael stafell sengl iddo’i hun, ynghyd â 2 weithiwr allweddol yr un. Mae’r preswylwyr yn gadael yr uned am 9 y bore, ac yn dychwelyd am 5pm.

Y Ganolfan Ddydd

Mae’r Ganolfan Ddydd ar agor drwy’r dydd, 7 diwrnod yr wythnos. Llun – Gwener 9am – 9pm, Sadwrn a Sul 9am – 5pm. Mae gennym bolisi drws agored, a’r nod yw croesawu pawb. Rydym yn gweini cawl a bara am ddim, a phrydau am bris gostyngol. Hefyd, mae gweithwyr cymorth wrth law i gynnig cyngor i ddefnyddwyr gwasanaethau.

Ein 12 cartref

Mae gan C.A.S.H 12 cartref â chymorth a rennir gyda thenantiaid eraill ledled Caerdydd. Caiff pob tenant help llaw gweithiwr cymorth penodol. Y nod yw cynorthwyo’r tenantiaid a’u paratoi i fyw’n annibynnol.

Lloches nos dros y gaeaf

Rydyn ni’n ailagor ein canolfan ddydd am 10pm yn ystod misoedd oer y gaeaf – o fis Tachwedd tan fis Mawrth – er mwyn croesawu hyd at 12 o bobl a fyddai’n cysgu ar y stryd fel arall. Cyplau a phobl â chwn sy’n cael y flaenoriaeth.

Rhaglen Datblygu Defnyddwyr

Rydyn ni’n cyflogi Swyddog Datblygu Defnyddwyr. Ei brif orchwyl yw annog ein defnyddwyr gwasanaethau i fachu ar gyfleoedd hyfforddiant, addysg a gwaith.

Services
Rhif elusen gofrestredig 703074. Rhif cwmni cofrestredig 2509188.