Daw pobl sengl ddigartref o bob cefndir - o gartrefi “da” yn ogystal â chartrefi “gwael”, o deuluoedd cefnog a thlawd, yr hen a’r ifanc, dynion a menywod fel ei gilydd. Mae nifer fawr – cannoedd lawer yn y brifddinas yn unig – yn cysgu mewn hosteli, llety “gwely a brecwast” neu ar y strydoedd.
Ychydig iawn sy’n ddigartref o’u gwirfodd. Byddai’n well gan y rhan fwyaf ohonynt gael cartref a gwaith, a setlo ’lawr i fywyd bob dydd. Ond mae’n anodd iawn camu o fywyd y stryd i fywyd annibynnol unwaith eto.
Ond mae modd gwneud hynny gyda digon o gymorth! Mae cymorth o’r fath ar gael gan C.A.S.H.