Credwn ein bod yn cynnig gwerth da am arian am bob punt a ddaw o ffynonellau statudol a gwirfoddol.
Does dim amser i laesu dwylo, fodd bynnag, gan ein bod yn gwella’n gwasanaethau i gleientiaid yn gyson. Gwerthfawrogwn unrhyw gyfraniad bach neu fawr tuag at y coffrau.
Croeso i chi anfon cyfraniadau ariannol at Mr Adrian Burke, ein Swyddog Cyllid, yn y cyfeiriad gyferbyn.
Yn ogystal â rhodd ariannol, byddai bwyd a dillad o fudd mawr i ni hefyd. Os allwch chi’n helpu ni fel hyn, cysylltwch â’r Rheolwr Cyffredinol, Ken Eccles.
Allwch chi roi rhywfaint o’ch amser sbâr i’n helpu ni? Rydyn ni’n chwilio am wirfoddolwyr i’n helpu ni i redeg y ganolfan. Mae’r dyletswyddau’n amrywio o helpu yn y gegin i helpu’r gweithwyr prosiect yn y swyddfa. Os oes gennych chi ddiddordeb, cysylltwch â Layton (Percy) Jones, Dirprwy Reolwr Cyffredinol. Bydd eich cymorth chi’n gwneud byd o wahaniaeth.